Cyflwyniad i Beirianneg Deunyddiau

Mae’r cyflwyniad i ddeunyddiau yn rhoi cipolwg ar fyd peirianneg deunyddiau, yn ogystal â throsolwg o nodweddion ffisegol a mecanyddol gwahanol ddeunyddiau.

Pwy ddylai fod yn bresennol?

Mae’r cwrs wedi’i fwriadu ar gyfer pobl sy’n dymuno caffael/gwella gwybodaeth sylfaenol ym maes deunyddiau a meteleg. Ymhlith yr ymgeiswyr nodweddiadol mae personél technegol a pheirianwyr.

Nodau’r cwrs

Darparu dealltwriaeth graidd o beirianneg deunyddiau a nodweddion deunyddiau. Bydd y cynrychiolydd yn gadael y cwrs gyda dealltwriaeth o strwythur a nodweddion deunyddiau, ac yn cysylltu egwyddorion gwyddonol sylfaenol â chymwysiadau peirianneg.

Canlyniadau dysgu

  • Wrth gwblhau’r cwrs hwn dylech chi fedru arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r cysyniadau hanfodol ar draws ystod eang o deuluoedd o ddeunyddiau a nodweddion mecanyddol
  • Dealltwriaeth o strwythur a nodweddion deunyddiau
  • Gallu i gysylltu egwyddorion deunyddiau sylfaenol â chymwysiadau peirianneg

Rhaglen y cwrs

  • Dethol deunyddiau
  • Ymddygiad mecanyddol deunyddiau
  • Strwythur a bondio atomig
  • Strwythur crisialau solidau
  • Solidiad
  • Polymerau
  • Cyfansoddion
  • Trylediad
  • Microstrwythur metelau ac aloiau

Asesu

Arholiad ysgrifenedig 2 awr.

Hyd

3 diwrnod a asesu.

Prisiau

I gael gwybod mwy am faint mae'n ei gostio i fod yn bresennol ar y cwrs hwn ac i weld a ydych yn gymwys i dderbyn cyllid rhan ewch i'n tudalen prisiau

Faint mae'n ei gostio? Cofrestru ar gyfer y cwrs hwn