Materion Amgylcheddol

Gyda’r ffocws ar yr amgylchedd yn cynyddu’n barhaus a deddfwriaeth yn newid yn gyflym, mae’n dod yn bwysicach deall dylanwad diwydiant ar yr amgylchedd. Mae’r cwrs hwn yn darparu addysg ar y ddeddfwriaeth gyfredol ac ar ddylanwad diwydiant ar yr amgylchedd.

Pwy ddylai fod yn bresennol?

Bydd y cwrs yn addas ar gyfer personél technegol, peirianwyr a rheolwyr cynhyrchu y mae eu rolau’n cynnwys delio gyda materion amgylcheddol, neu y byddai gwybodaeth am faterion amgylcheddol o fantais iddynt.

Nodau’r cwrs

Darparu trosolwg o ddeddfwriaeth amgylcheddol, a chipolwg ar yr heriau amgylcheddol mae diwydiant modern yn eu hwynebu. Disgrifio materion llygredd penodol cysylltiedig â diwydiant yng nghyswllt d?r, awyr a thir, a darparu canllawiau ymarferol ar hawlenni amgylcheddol, a’r camau sy’n ofynnol i gyflawni statws ISO14001.

Canlyniadau dysgu

  • Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth amgylcheddol a’i heffaith ar ddiwydiant
  • Canllawiau ymarferol ar sut mae sicrhau hawlenni amgylcheddol
  • Disgrifiad o’r camau sy’n ofynnol i sefydlu system rheolaeth amgylcheddol, i sicrhau cydymffurfiaeth ag ISO14001
  • Dealltwriaeth o’r rôl y gall technoleg ei chwarae o ran lleihau’r effaith amgylcheddol

Rhaglen y cwrs

  • Adolygiad o faterion amgylcheddol, a’u heffaith ar iechyd, adnoddau a pholisi ynni
  • Disgrifiad o’r ddeddfwriaeth amgylcheddol helaeth sy’n berthnasol i ddiwydiant
  • Effaith trethiant amgylcheddol
  • Diffinio’r broses ar gyfer sicrhau hawlenni amgylcheddol
  • Mapio’r fframwaith er mwyn i sefydliad roi system rheolaeth amgylcheddol effeithiol ar waith
  • Adolygu’r sefydliadau sydd â rôl yn y gwaith o blismona cydymffurfiaeth â materion amgylcheddol
  • Adolygu ffynonellau pwysig o lygredd yn yr awyr, yn y d?r, ac ar y tir
  • Astudiaethau achos diwydiannol sydd wedi ymdrin â phroblemau amgylcheddol penodol
  • Amlinelliad o rôl datblygiadau technolegau cyfredol ar leihau difrod amgylcheddol
  • Disgrifiad o nifer o fentrau Ymchwilio, Datblygu a Phrofi (RD&T) pwysig a allai ddarparu atebion effeithiol yn y dyfodol

Asesu

Arholiad ysgrifenedig 2 awr.

Hyd

3 diwrnod a asesu.

Prisiau

I gael gwybod mwy am faint mae'n ei gostio i fod yn bresennol ar y cwrs hwn ac i weld a ydych yn gymwys i dderbyn cyllid rhan ewch i'n tudalen prisiau

Faint mae'n ei gostio? Cofrestru ar gyfer y cwrs hwn