Cyrsiau sydd i ddod

Meteleg Ymarferol

Mae’r cwrs hwn yn rhoi i’r rhai sy’n ei fynychu y galluoedd ymarferol i baratoi a phrofi samplau, yn ogystal â’r wybodaeth ddamcaniaethol i ddehongli canlyniadau.

Cyllidir yn rhannol
£350

Safonol
£700

Cofrestru

Cyllidir yn rhannol £350Safonol £700

Cofrestru

Pwy ddylai fod yn bresennol?

Bydd y cwrs yn addas ar gyfer personél technegol, peirianwyr a rheolwyr cynhyrchu y bydd eu rolau’n elwa o ddealltwriaeth o brofion meteleg ymarferol a’r berthynas rhwng data profion a nodweddion ffisegol. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ar y cynrychiolwyr, ond gan fod y cwrs ar lefel blwyddyn gyntaf gradd, dylent allu ymgysylltu ar gwrs technegol.

Nodau’r cwrs

Rhoi i’r rhai sy’n bresennol y galluoedd ymarferol i baratoi a phrofi samplau, yn ogystal â’r wybodaeth ddamcaniaethol i fedru dehongli canlyniadau

Canlyniadau dysgu
  • Paratoi samplau metelegol
  • Cynnal profion mecanyddol
  • Dehongli data’r profion
  • Cysylltu’r microstrwythur â’r nodweddion mecanyddol
  • Cynhyrchu adroddiad technegol i gyfleu’r canfyddiadau
Rhaglen y cwrs

Cyflwyniad i brofion metelegol

  • Metelau, aloiau, crisialau (gronynnau)
  • Gweddau, microstrwythur, diagramau gwedd, trawsffurfiadau gwedd
  • Dylanwad gwaith mecanyddol a thymheredd (triniaeth gwres) ar ficrostrwythur
  • Y berthynas rhwng microstrwythur a nodweddion deunyddiau
  • Ystyriaeth fanwl o ddau ddiagram gweddau aloi, Cu - Ni ac Fe -C.
  • Egwyddorion ysgythriad metelegol
  • Egwyddorion technegau profi

Sesiynau ymarferol – Bydd nifer o wahanol aloiau yn cael eu hastudio

  • Sgleinio samplau
  • Ysgythriad metelograffig a microsgopeg
  • Profion tynnol
    • Gan gynnwys allosodiad cynnyrch, cryfder tynnol uchaf (UTS) a modwlws Young
  • Profi Caledwch
  • Profi effaith
  • Asesu arwyneb
    • Microsgopeg
      • Nodi strwythur gronynnau a gweddau
      • Mesur maint gronynnau (Cymedr Rhyng-gipio Llinellol)
      • Mesur trwch caeniad
    • SEM
      • Asesu arwyneb drylliad
      • Morffoleg arwyneb
    • EDX
      • D
        Asesu
        Cyflwyno adroddiad yn cynnwys y manylion ymarferol a’r casgliadau
Dyddiadau
Diwrnod 1: Mercher 26 Medi
Diwrnod 2: Iau 27 Medi
Diwrnod 3: Gwener 28 Medi
3 diwrnod a asesu.

Lleoliad
Prifysgol Abertawe Campws y Bae

I gael gwybod mwy am faint mae'n ei gostio i fod yn bresennol ar y cwrs hwn ac i weld a ydych yn gymwys i dderbyn cyllid rhan ewch i'n tudalen prisiau

Prisiau Cofrestru