Cyrsiau sydd i ddod

Technoleg Gweithgynhyrchu

Mae’r cwrs technoleg gweithgynhyrchu yn darparu trosolwg o dechnegau a dulliau gweithgynhyrchu cyffredin, yn ogystal â chwmpasu rhai o’r agweddau technegol sy’n gysylltiedig â’r technegau hynny.

Cyllidir yn rhannol
gan ddechrau am £200

Safonol
gan ddechrau am £400

Cofrestru

Cyllidir yn rhannol gan ddechrau am £200
Standard gan ddechrau am £400

Cofrestru

Pwy ddylai fod yn bresennol?
Mae’r cwrs wedi’i fwriadu ar gyfer pobl sy’n dymuno caffael/gwella gwybodaeth am weithgynhyrchu, prosesau gweithgynhyrchu a’u cysylltiad â deunyddiau. Ymhlith y mynychwyr nodweddiadol mae personél technegol, rheolwyr cynhyrchu, gweithredwyr cynhyrchu, peirianwyr a hyfforddeion. Nid oes rhaid i’r cynrychiolwyr feddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond gan mai cwrs ar lefel blwyddyn gyntaf gradd yw hwn, dylent fedru ymgysylltu ar gwrs technegol.
Nodau’r cwrs
Darparu dealltwriaeth graidd o brosesau gweithgynhyrchu, ystyriaethau arwyddocaol yn ystod y prosesau hyn a meddylfryd cyffredinol gweithgynhyrchu. Bydd y cwrs yn rhoi cipolwg ar agweddau technegol ar weithgynhyrchu ac yn amlygu ystyriaethau prosesu a diffygion cyffredin.
Canlyniadau dysgu
  • Dealltwriaeth dda o dechnegau gweithgynhyrchu
  • Gallu i ddethol prosesau cynhyrchu ar gyfer gweithgynhyrchu cynnyrch llwyddiannus
  • Dealltwriaeth bod prosesau dethol deunyddiau a gweithgynhyrchu yn bwysig wrth gynhyrchu cynnyrch sy’n perfformio ar lefel optimwm ar y gost isaf sy’n bosibl
  • Cysylltu effeithiau prosesau graddfa fawr â strwythur microsgopig deunyddiau
Rhaglen y cwrs
  • Trosolwg o weithgynhyrchu
  • Strwythur a nodweddion deunyddiau
  • Castio
  • Meteleg powdwr
  • Ffurfio
  • Gofannu
  • Peiriannu
  • Triniaethau Arwyneb
    • Caenu
    • Platio
    • Wynebu caled
    • Dyrnu â phelenni
  • Uno
  • Rheoli microstrwythur
  • Triniaethau gwres ac anelio
  • Profion Annistrywiol (NDT)
  • Cyflwyniad i Beirianneg Diwastraff
  • Systemau Ansawdd
  • Dethol Deunydd a Phroses
    • Cynnwys deunyddiau peirianneg cyffredin
Asesu
Arholiad ysgrifenedig 2 awr.
Dyddiadau
Diwrnod 1: Mercher 18 Gorffenaf
Diwrnod 2: Iau 19 Gorffenaf
Diwrnod 3: Gwener 20 Gorffenaf
3 diwrnod a asesu.

Lleoliad
Canolfan Arloesi Bae Baglan

I gael gwybod mwy am faint mae'n ei gostio i fod yn bresennol ar y cwrs hwn ac i weld a ydych yn gymwys i dderbyn cyllid rhan ewch i'n tudalen prisiau

Prisiau Cofrestru